Corfforedig
Comisiynwch ni i greu rhywbeth unigryw i’ch delwedd. Gallwn ddarparu digwyddiadau personol, penodol ar gyfer lansiadau, dathliadau a hyrwyddiadau.
Byddwn yn gweithio i’ch cyllideb gydag artistiaid llawrydd, gosodwyr, technegwyr a chwmnïau eraill i gyflenwi eich gweledigaeth greadigol.
Rydym yn cynnig rheolaeth gyfan gwbl dros ddigwyddiad, rhaglenni diwylliannol, perfformiadau coreograffedig, a harddwch drwy ein cysylltiadau gyda thalent ryngwladol.
Dewch i’n synnu gyda’ch syniadau. Rydym wrth ein boddau gyda her !
Sut i fynd ati i archebu?
Mae ein proses 3 cham yn golygu bod archebu yn hawdd
Cam 1
Cysylltwch â ni i ddisgrifio eich digwyddiad
CAM 2
Mae ein tîm hynod brofiadol yn cysylltu gyda chi i drafod ac i greu cynllun yn seiliedig ar eich anghenion
Cam 3
Rydym yn cysylltu eto gyda phris.
Unwaith derbyniwn ni’r golau gwyrdd gennych chi, aiff y cynllun ar waith!
Pam dewis Organised KAOS?
Mae mentrau cymdeithasol yn newid y byd er gwell. Mae dewis cwmni cymdeithasol i weithio ar eich digwyddiad yn ffordd effeithiol iawn o ennyn newid positif yn y byd.