Mae Organised KAOS wedi datblygu o fod yn rhaglen ar gyfer pobol ifanc (Kadw Pobol if Anc Oddi ar y Strydoedd) i fod yn syrcas Gymreig syfrdanol, anarchaidd a thanllyd sy’n ymwybodol iawn o’i wreiddiau Celtaidd.

Camwch i’n peiriant amser

Dechreuodd y cwmni fel prosiect estyn allan i ieuenctid yn 2007 ond erbyn hyn mae’n fusnes cymdeithasol arobryn wedi ei sefydlu yng Ngwaun Cae Gurwen, yng nghanol De-ddwyrain Cymru.


Cofrestrwyd Organised Kaos yn gwmni corfforedig ar Ionawr 6ed 2010, ac fe’i lansiwyd fel menter gymdeithasol ar Orffennaf 1af y flwyddyn honno.


Mae ein gweithgareddau a’n cyrchnodau i’w gweld yn ein hacronym :
Kadw Pobol if Anc Oddi ar y Strydoedd (KAOS). Aethom ni â syrcas mas i galon ein cymuned, chwaraeon ni â than, a newidion ni fywydau.


Mae ein gwreiddiau yn draddodiadol, ond nid felly ein dulliau.
Erbyn hyn cydnabyddir ein busnes a’n bwriad cymdeithasol fel grym dros newid – mae pob elw gwneir o weithgareddau allanol yn cael ei ail-fuddsoddi mewn creu swyddi a chynhaliaeth ein hysgol hyfforddi – yn cefnogi ein cymuned syrcas gyda hyfforddiant lleol cyson, fforddiadwy ac yn creu etifeddiaeth syrcas ar gyfer genhedloedd i ddod.

Mae ein syrcas gymdeithasol yn ffynnu.

Drwy gwmpasu’r cysyniad o syrcas gymdeithasol, rydym yn cyflwyno ffurf gelfyddydol sydd nid yn unig yn denu pobol ifanc a’r gymdeithas ehangach atom, ond sydd hefyd yn ennyn optimistiaeth ac yn ehangu gorwelion, yn ysbrydoli ein pobol i gamu ymhellach na chredoau hunan gyfyngol, ac yn hybu cydraddoldeb drwy gyfranogaeth greadigol.

Rydym yn cyfuno’r safon berfformio a safonau creadigol cwmni cynhyrchu gydag ymwneud y gymuned a chenhadaeth menter gymdeithasol wirioneddol, gan ddefnyddio syrcas fel catalydd ar gyfer newid cymdeithasol, rydym yn darparu llais sydd yn atsain drwy’r gymuned ac yn ennyn boddhad yn y bobol a’r lle.

Rydym yn syrcas fentrus sydd yn dilyn ei chenhadaeth gymdeithasol

Creu cymuned drwy Syrcas

🧡

Ein nodau yw

⭐️ Creu canolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant Syrcas yn Ne-ddwyrain Cymru

⭐️ Cymell pobol ifanc ac oedolion i ymwneud â bywyd cymunedol

⭐️ Annog pobol ifanc i gymryd rhan yn y Celfyddydau

⭐️ Grymuso pobol ifanc i wireddu eu potensial

⭐️ Creu cyflogaeth gynaliadwy

Dewch i gwrdd â thîm Organised KAOS

Arwenir Organised KAOS gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr ymroddedig â profiad busnes.

Ein Bwrdd Cyfarwyddwyr

Nicola Hemsley-Cole, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig

Nicola yw ein Sylfaenydd ac Arweinydd. Wedi hyfforddi yn Rose Bruford College of Speech and Drama, roedd gan Nicola yrfa lwyddiannus fel actor am dros ugain mlynedd, cyn ymgartrefu yn ôl adre yng Gwaun Cae Gurwen. Sefydlodd Nicola Organised KAOS wedi iddi sylweddoli bod pobol ifanc yn ei chymuned yn wynebu’r un rhwystrau a wynebodd hi yn ei harddegau hithau. Mae angerdd ac ymroddiad Nicola wedi galluogi Organised KAOS i ffynnu, a thyfu’n sefydliad gadarn sy’n cyllido’i hunan a sydd yn gaffaeliad i’w chymuned leol ac i’r Celfyddydau yng Nghymru.

Rae Davies, Cadeirydd y Bwrdd

Mae Rae yn entrepreneur diwydiannol sy’n angerddol am ddatblygiad busnes a phobol yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn rhan o ddatblygiad Organised Kaos o’r cychwyn, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu pobol, prosiectau a dyfeisiadau newydd. Mae gan Rae MSc mewn Arweinyddiaeth Strategol a llawer o ddiddordeb mewn gweithgareddau yn yr awyr agored, yn enwedig Tractorau, hofranlongau tir, a beiciau modur.

Phillip Gordon-Andrews, Cyfarwyddwr Cyllid

Mae Phillip yn rheolwr gweithgaredd technegol gyda British Telecom Cyf, yn gyfrifol am reolaeth gyllidol prosiectau Tech Gwyb mawr sy’n cael eu darparu yn rhyngwladol i’r cwmni. Yn chwilio am newid yn eu ffordd o fyw, symudodd teulu Phillip o Rydychen i Gwaun Cae Gurwen ac yma, darganfyddodd ei blant OK. Wedi tystio’r effaith gadarnhaol ei hun, a’r plant yn mynychu OK yn rheolaidd, dechreuodd Phillip wirfoddoli. Pan glywodd Nicola am gefndir cyllidol Phillip yn 2013, fe’i gwahoddodd i ymuno a’r bwrdd – swydd mae’n browd iawn ohono hyd heddiw !

Sharon Sunderland, Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr y Cwmni

Mae Sharon wedi bod gydag OK ers 2015 fel ysgrifennydd y cwmni a chyfarwyddwr. Mae ganddi 22 o flynyddoedd o brofiad yng nghyfnod addysg sylfaenol. Ar hyn o bryd mae Sharon yn ymgynghorydd cyflogaeth prosiect cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae Sharon yn teimlo’n angerddol am ei chymuned ac mae hi wedi ymroi pedair blynedd fel cynghorydd i’r cyngor cymunedol – ei nod yw sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau lleol i’r deiliaid i gyd. Mae hi hefyd yn falch iawn o lwyddiannau OK wrth i’r cwmni parhau i gynnig llwyfannau cyfle i bobol ifanc i’w galluogi i fod yn rhan o deulu’r syrcas, sydd yn ei dro yn agor gymaint o ddrysau yn y dyfodol mewn cymaint o ffyrdd.

Dewch i gwrdd â’r tîm

Rydym yn partneru a gweithio gyda llawr o gwmnïau a gweithwyr llawrydd eraill yn ein digwyddiadau – creadigol, technegol a deinamig – i greu sefydliad sydd yn wirioneddol sicr o’i le.

Joe Coward

 

Ilana Hardy

Ilana is a third year student in Circomedia. She came up through our Youth Programme and now works at OK as a Youth Trainer.

Meg Spiers

Meg Spiers yw llaw dde Nicola. Mae hi’n danbaid ac yn barod i drio unrhyw beth. Fe wnewch chi ei ffeindio ben i waered ar bolyn neu’n gweithio ar ddigwyddiadau enfawr.

Jac Morgan

Jac has been with OK for over a decade, and despite getting a degree in Cyber Security he keeps coming back, now helping with classes, events, marketing videos and OKs website.

Jayne Williams

Mae Jayne yn wirfoddolwr cyson yn y prosiect boed yn yr awyr neu ar y llawr. Mae hi’n angerddol am gymunedau bywiog a bydd hi byth yn colli’r cyfle i ddathlu a rhannu ei llawenydd yn y syrcas.

Leilu Suter

Mae Leilu yn hyfforddwr ieuenctid sydd wedi mynychu ein Rhaglen ac sydd nawr wedi ei chyflogi gan OK i ddarparu hyfforddiant a chelfyddydau cymunedol.

Justin Owen

Ymunodd Justin â OK yn 16 oed ac mae e dal yma deng mlynedd yn ddiweddarach. Y pyromaniac gwreiddiol a hyfforddwr cymuned deinamig.

Emily Davies

Mae Emily yn alluogwr gwirfoddol. Mae hi’n angerddol am ein cymuned syrcas ac mewn cariad a’r cylchyn awyr.

Jonni Coleman

Jonni joined OK at a young age, and with a  background in Gymnastics he is willing to give anything a go; Whether it be aerial or ground based Jonni has worked with us on numerous community events.

Declan Keeley

Declan is one of OKs senior volunteer, joining us on classes and events to help teach youth the joys of circus.

Param Bansi

Ymunodd Param â Ok fel gofalwr wrth astudio am ei arholiadau. Er iddo ymuno â ni ar sawl digwyddiad, rydym yn dal i drio ei berswadio i redeg i ffwrdd i ymuno â’r syrcas !

Ymunwch â’r tîm

Rydym bob amser yn croesawu pobol sydd yn rhannu ein cenhadaeth a’n gwerthoedd i ymuno â theulu OK!
Mae llawer o gyfleoedd ar gael – o wirfoddoli yn y dosbarthiadau i helpu gyda rheoli’r ysgol hyfforddi. Beth bynnag yw eich diddordeb, os ydych chi’n caru ein gwaith, rydan ni eisiau clywed gennych chi!
Byddwch yn rhan o’n cymuned syrcas cymdeithasol, cyfeillgar.

🧡

cyCymraeg
Scroll to Top
Skip to content