Llwyfan/Rig awyrol

Mae ein llwyfan/rig awyrol yn ein galluogi i fynd â gweithdai a pherfformiadau cyffrous i bob math o lefydd. Saif ar draed diogel meddal fydd ddim yn niweidio lloriau, felly, os yw’r gofod gennych chi, gallwn ei osod.
Mae’n sefyll ar ei draed ei hun ac yn gwbl annibynnol. Mae dau faint :
Isaf : 4.2m (ôl troed 7.25m wrth 5.5m)
Uchaf : 5.4m (ôl troed 8m wrth 6.5m)
Mae angen dwy awr ar dîm o 6 o bobol i adeiladu’r uchaf, a 1.5 awr i’ r isaf.

Sut i fynd ati i archebu?

Mae ein proses 3 cham yn golygu bod archebu yn hawdd

Cam 1

Cysylltwch â ni i ddisgrifio eich digwyddiad

CAM 2

Mae ein tîm hynod brofiadol yn cysylltu gyda chi i drafod ac i greu cynllun yn seiliedig ar eich anghenion

Cam 3

Rydym yn cysylltu eto gyda phris.

Unwaith derbyniwn ni’r golau gwyrdd gennych chi, aiff y cynllun ar waith!

Pam dewis Organised KAOS?

Mae mentrau cymdeithasol yn newid y byd er gwell. Mae dewis cwmni cymdeithasol i weithio ar eich digwyddiad yn ffordd effeithiol iawn o ennyn newid positif yn y byd.

cyCymraeg
Scroll to Top
Skip to content