Stryd, Gŵyl ac Am Dro
Mae’n bosib archebu tîm profiadol Organised Kaos o berfformwyr syrcas. O weithdai syrcas ymarferol, sioeau, paredau a dyddiau hwyliog, gallwn ddod â llawenydd y syrcas atoch chi yn eich cymuned ar gyfer digwyddiad cyffrous a bythgofiadwy.

O weithdai ymarferol i fynd am dro, paredau, dyddiau hwyliog a chwarae stryd, gadewch i ni ddod â llawenydd y syrcas yn syth atoch chi. Gallwn ddarparu:

⭐️ Gweithdai mynediad agored

⭐️ Digwyddiadau cymuned

⭐️ Chwarae “pop-up”

⭐️ Ymgynghori cymunedol

⭐️ Carnifalau

Sut i fynd ati i archebu?

Mae ein proses 3 cham yn golygu bod archebu yn hawdd

Cam 1

Cysylltwch â ni i ddisgrifio eich digwyddiad

CAM 2

Mae ein tîm hynod brofiadol yn cysylltu gyda chi i drafod ac i greu cynllun yn seiliedig ar eich anghenion

Cam 3

Rydym yn cysylltu eto gyda phris.

Unwaith derbyniwn ni’r golau gwyrdd gennych chi, aiff y cynllun ar waith!

Pam dewis Organised KAOS?

Mae mentrau cymdeithasol yn newid y byd er gwell. Mae dewis cwmni cymdeithasol i weithio ar eich digwyddiad yn ffordd effeithiol iawn o ennyn newid positif yn y byd.

cyCymraeg
Scroll to Top
Skip to content